Mae Met Caerdydd wedi sicrhau dros 1,200 o ystafelloedd gwely astudio en-suite mewn neuaddau preswyl breifat, y mae rhai ohonynt wedi’u lleoli’n agos at y campysau. Mae pob un o’r Neuaddau’n cael eu gwasanaethu’n rheolaidd gan wasanaethau Bws Caerdydd neu’n ddigon agos i gerdded i’r campws.
Mae gan Met Caerdydd berthynas hirsefydlog gyda phob un o’r neuaddau hyn, sy’n darparu llety modern sy’n gyfeillgar i fyfyrwyr am bris gostyngol.
Cofiwch, i sicrhau ystafell yn un o’r Neuaddau hyn bydd angen i chi wneud cais trwy ni yn unig! Peidiwch â gwneud cais yn uniongyrchol gan y bydd yn costio mwy, bydd gennych gontract hirach ac efallai na fyddwch yn byw gyda myfyrwyr Met Caerdydd.

Lleolir Unite Blackweir Lodge ger Campws Llandaf, gyda dros 400 o ystafelloedd a'r neuaddau a feddiannir gan fyfyrwyr Met Caerdydd yn unig. Mae pob un o’r ystafelloedd yn ystafelloedd sengl, sy’n hunanarlwyo ac sydd â chyfleusterau ystafell ymolchi en suite. Mae gan bob ystafell fynediad i’r rhyngrwyd a setiau teledu yn y gegin/lolfa gymunedol. Gerllaw mae bwytai a siopau ac mae’n daith gerdded 10 munud i Ganol y Ddinas neu 25 munud i Gampws Llandaf.

Mae North Court yn agos at Gampws Llandaf. Mae pob ystafell yn hunanarlwyo ac mae ganddynt gyfleusterau ystafell ymolchi ensuite. Myfyrwyr Met Caerdydd yn unig sy’n meddiannu dros 230 o ystafelloedd a’r neuaddau. Mae gan bob ystafell fynediad i’r rhyngrwyd. Gerllaw mae bwytai a siopau ac mae’n daith bws 10 munud i Ganol y Ddinas.

Lleolir Unite The Bakery yng nghanol y ddinas. Mae pob ystafell yn hunanarlwyo ac mae ganddynt gyfleusterau ystafell ymolchi en suite. Mae gan bob ystafell fynediad i’r rhyngrwyd. Gerllaw mae cannoedd o fwytai, bariau a siopau ac mae’n daith gerdded 5 munud i ddal Bws Caerdydd 52 am Gyncoed neu Fws Caerdydd 25 ar gyfer Llandaf. Mae pob ystafell wely yn ystafelloedd deiliadaeth sengl sy’n hunanarlwyo, mae ganddynt ystafelloedd ymolchi en-suite a gwelyau 4 troedfedd o led.

Mae Cambrian Point yn daith gerdded 20-25 munud o gampws Met Caerdydd yn Llandaf ac ychydig dros filltir o ganol y ddinas. Wedi'i leoli yn ardal fyfyrwyr poblogaidd Cathays, mae'n agos at siopau, amwynderau lleol, a mannau gwyrdd fel Blackweir Fields a Pharc Bute. Mae llwybrau bws cyfagos yn darparu teithio'n hawdd i gampysau Llandaf a Chyncoed.

Lleolir Unite Tŷ Pont Haearn (a elwir hefyd yn TPH) yng nghanol y ddinas. Mae pob ystafell yn hunanarlwyo ac mae ganddynt gyfleusterau ystafell ymolchi en suite. Mae gan bob ystafell fynediad i’r rhyngrwyd. Gerllaw mae cannoedd o fwytai, bariau a siopau ac mae’n daith gerdded 10 munud i ddal Bws Caerdydd 52 am Gyncoed neu Fws Caerdydd 25 ar gyfer Llandaf.

Lleolir Yugo Arofan House oddi ar Heol y Ddinas yn agos i ganol y ddinas. Mae pob ystafell yn hunanarlwyo ac mae ganddynt gyfleusterau ystafell ymolchi en suite. Mae gan bob ystafell fynediad i’r rhyngrwyd. O fewn pellter cerdded mae llawer o fwytai, bariau a siopau ac mae’n daith gerdded 6 munud i ddal Bws Caerdydd 52 am y daith 13 munud i Gampws Cyncoed.

Wedi’i leoli mewn man delfrydol, ger Parc y Rhath ac ardal fywiog Cathays – sy’n llawn detholiad gwych o fariau, tafarndai a bwytai – mae Tŷ Clodien yn cynnig lleoliad bywiog i fyw ac astudio. Mae campws Cyncoed yn hawdd ei gyrraedd, dim ond 30 munud ar droed neu’n daith fer ar y bws. Mae hefyd wedi’i gysylltu’n dda â chanol y ddinas, siopau lleol a champws Llandaf, gan ei wneud yn ganolfan gyfleus ar gyfer astudio a hamdden.